07 Awst 2025
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n galw ar breswylwyr 65 oed a throsodd a'u hanwyliaid i gymryd un cam syml sydd â'r potensial i achub bywydau: archebu Archwiliad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref rhad ac am ddim heddiw.
Mae'r apêl daer hon yn dilyn ystadegyn brawychus: Mae 67% o farwolaethau domestig damweiniol sy'n ymwneud â thân yn Ne Cymru eleni yn gysylltiedig â phobl sydd dros 65 oed.
Mae Archwiliad Diogelwch rhag Tân yn y Cartref yn ymweliad cyflym a rhad a all leihau risgiau tân yn sylweddol. Bydd Diffoddwyr Tân neu Swyddogion Diogelwch Tân yn y Cartref yn asesu eich cartref am beryglon posib, yn cynnig cyngor diogelwch wedi'i deilwra ac yn gosod larymau mwg neu gyfarpar arbenigol lle bo'r angen, gan gynnwys dyfeisiau a gynlluniwyd ar gyfer pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw.
“Mae risg tân yn cynyddu gyda henaint, ond mae modd atal llawer ohono," medd Richie Smart, Pennaeth Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau. “Mae ein harchwiliadau diogelwch rhag tân yn y cartref yn gam syml a all achub bywydau - yn enwedig i'r rhai hynny sy'n byw ar eu pennau'u hunain neu sy'n rheoli cyflyrau iechyd sy'n gwneud argyfyngau'n anoddach i ddelio â hwy.”
Mae ffactorau risg cyffredin yn cynnwys casglu neu orlenwi yn y cartref, heriau symudedd, larymau mwg sydd ar goll neu sydd wedi dyddio a defnydd anniogel o wresogyddion, carthenni trydan neu sigarennau y tu mewn i'r cartref.
Gall hyd yn oed cartrefi sydd â larymau mwg ddim bod yn gwbl warchodedig. Ar gyfer preswylwyr hŷn a fydd efallai'n ymlafnio i brofi larymau neu eu clywed wrth iddynt gysgu, mae'r Gwasanaeth yn cynnig offer amgen sy'n defnyddio rhybuddion sydd â golau neu ddirgrynwyr.
Y llynedd, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru dros 15,000 o Archwiliadau Diogelwch rhag Tân yn y Cartref ynghyd â gosod mwy na 23,000 o larymau - bob un yn helpu diogelu bywydau a chartrefi.
Mae archebu'n rhwydd a rhad:
Bydd yr archwiliad yn cymryd 30 munud yn unig ac fe all fod yn un o'r apwyntiadau mwyaf pwysig byddwch chi neu'ch anwyliaid yn ei wneud byth.
Nid yw tân yn gwahaniaethu - ond mae'r risgiau'n cynyddu wrth i chi heneiddio. Peidiwch ag oedi. Ewch ati heddiw.
Am fwy o gyngor diogelwch, ymwelwch â Chanllaw Diogelwch yn y Cartref Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Media Communications
media@southwales-fire.gov.uk
South Wales Fire and Rescue Service aims to make south Wales safer, by reducing risk. We work to protect and serve all across the 10 Unitary Authorities that make up our diverse area, working in partnership with our colleagues in other frontline services.
For further enquiries and interview requests, please contact South Wales Fire and Rescue Service’s Media and Communications Team via email: media@southwales-fire.gov.uk or by calling 01443 232299.